Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

 

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

 

Ymateb RhAG

 

Mehefin 2012

 

 

 

 

Enw cyswllt:

 

Ceri Owen

Swyddog Datblygu RhAG

Tŷ Cymru

Greenwood Close

Parc Busnes Porth Caerdydd

Caerdydd

CF23 8RD

 

02920 739207 / 07912175403

 

ceri@rhag.net

 

 

 

Dymuna RhAG ddiolch am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). Hoffwn ymhelaethu ar rai agweddau o’r Bil sydd o ddiddordeb pennaf i ni fel mudiad sef y rhai fyddai’n effeithio ar y gwaith o gynyddu llefydd yn y sector cyfrwng Cymraeg. Cynhwysir rhain yn Rhan 4 (adrannau 85-88) ynghyd â’r tudalennau perthnasol yn y Memorandwm Esboniadol.

 

1. Sylwadau cyffredinol

 

1.1       Yn gyffredinol mae RhAG yn croesawu dyfodiad y Bil sydd yn gwireddu ymrwymiad y Gweinidog Addysg i gynnwys darpariaethau a fyddai’n rhoi sail statudol i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mae hyn yn unol â’r datganiad yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y byddai Llywodraeth nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn “ystyried dulliau pellach o ddylanwadu ar gyfeiriad strategol addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys deddfwriaeth bosibl.”

 

1.2       Wrth gyhoeddi’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg nôl yn 2010 mynegodd RhAG bryder ynglŷn â’r diffygion o safbwynt gofynion statudol. Ein pryder oedd y cyfyd sefyllfa lle byddai strategaeth yn bodoli ond na fyddai gan y Llywodraeth y grymoedd i sicrhau ei gweithredu’n llawn ac o ganlyniad y byddai Awdurdodau Lleol yn parhau i beidio cyflawni. Mae hyn felly’n lleddfu’r pryderon hynny.

 

1.3       Cydnabyddir bellach mai Addysg Gymraeg yw’r prif offeryn sydd wedi troi’r trai yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Yr unig fodel sy’n llwyddo’n gyson i greu dinasyddion sy’n meddu ar sgiliau ieithyddol dwyieithog cyfartal a llythrennedd cyflawn yn y ddwy iaith yw ysgolion Cymraeg. Mae’n glir fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar sicrhau’r amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu a datblygu. Mae hyn yn hanfodol os ydym am gynyddu’r nifer o ddisgyblion a myfyrwyr sy’n meddu ar sgiliau ieithyddol llawn yn y Gymraeg a symud tuag at y weledigaeth a osodwyd yn Iaith Pawb ac a ategwyd yn Iaith Fyw: Iaith Byw o greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

 

1.4       Eisoes fe groesawyd dyfodiad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gan RhAG, datblygiad sy’n arddangos llywodraeth ganol am y tro cyntaf yn cymryd yr awenau yn y gwaith o gynllunio’n strategol i ymateb i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, cam cyntaf yn unig yn y broses oedd cyhoeddi’r Strategaeth honno.

 

1.5       Bu’r drefn ddiweddar o lunio a chyflwyno Cynlluniau Addysg Gymraeg gan Awdurdodau Lleol  i sylw Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn aml yn llafurus ac araf. Roedd oedi’n gyffredin gyda’r cynlluniau hyn, ac ymddengys nad oedd grym statudol digonol gan BYIG i fynnu cydymffurfio.  Canlyniad hyn yw ein bod o hyd yn aros am yr ail don o gynlluniau tair blynedd datblygu AG ers 1993. Yn ein barn ni, cwbl hanfodol felly yw sicrhau fod gan y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg fwy o rymoedd cyfreithiol na chyfundrefn blaenorol y Cynlluniau Addysg Gymraeg.

 

Rydym felly’n croesawu ac yn cytuno’n llwyr gyda’r darpariaethau yn y Bil i roi sail statudol i’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chysondeb yn genedlaethol.

 

2. Y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

Adran 4

85. Llunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

 

2.1       Wrth graffu'n fanylach ar yr adrannau sy'n berthnasol i addysg Gymraeg yn y Bil a'r Memorandwm Esboniadol, daw i'r amlwg ym marn RhAG fod anghysondebau a diffyg cyfatebiaeth amlwg rhwng y ddau.

 

2.2       Mae Cymal 85(1) yn diffinio cynnwys y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn hawlio iddynt gynnwys (i) mesurau i wella cynllunio darpariaeth addysg Gymraeg a (ii) mesurau i wella safonau addysg Gymraeg. Er hynny, nid oes crybwyll yma dros sicrhau ‘bod y ddarpariaeth yn ddigonol i ddiwallu y galw a amlygir trwy fesur y galw.’

 

2.3       Gellid dadlau fod cyfeiriad at lunio rheoliadau a fydd i'w gweithredu o dan y mesur, sydd wrth gwrs yn ddisgwyliedig, ond caiff y rheoliadau hynny eu cyfyngu i fynegi yn fanylach fwriadau y prif gymal sef gwella cynllunio a safonau. Dadleuwn felly fod angen gosod yr egwyddor sylfaenol hon yn glir yng nghorff y brif ddeddfwriaeth.

 

2.4       Fe ellir cyfeirio at Gymal 87 sy'n sôn am arolwg y galw a dweud bod hwn yn arwydd y dylai darpariaeth gyfateb i alw, ond mae RhAG o’r farn fod angen i'r prif gymal sef 85(1) gynnwys is-gymal cyn (1)(a)(i) yn darllen:

 

“gwella’r DDARPARIAETH addysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal i ddiwallu’r galw fel sydd wedi’i asesu yn unol â Chymal 87 (1)”

 

2.5       Felly nid gwella cynllunio’r ddarpariaeth sydd ei angen, sef materion sy’n ymwneud â phrosesau, ond yn hytrach gwella'r ddarpariaeth ei hun.

 

2.6       Ar y llaw arall, mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'n berffaith glir yr hyn sydd ei angen (t.22-26) ac yn mynegi’r hyn  y dymunir ei weld megis -

"ymateb i’r galw”

“cynyddu nifer y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg”

“mwy o blant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg”

“cynllunion strategol er mwyn hwyluso twf”

“gwella darpariaeth”  ayb

 

2.7       Felly i grynhoi, mae RhAG o’r farn nad deddfwriaeth "i wella’r broses o gynllunio’r modd y darperir addysg Gymraeg” nac ychwaith "i wella safonau addysg cyfrwng Cymraeg” sydd ei hangen, ond yn hytrach “i gynyddu (neu wella) y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg”.

 

2.8       Pryder sylfaenol RhAG felly yw nad yw’r  Bil yn unol â  bwriadau'r Gweinidog, fel sydd wedi'u hamlinellu’n glir yn y Strategaeth. O ganlyniad pryderwn fod yma gynnig deddfwriaeth lastwraidd na fydd yn ei arfogi gyda’r pwerau angenrheidiol i gyflawni’r targedau a osodir yn y Strategaeth.

 

 

Adran 4

86. Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

 

3.1       Fel mudiad sy’n cynrychioli rhieni, yn naturiol cytunwn ei bod yn hanfodol fod y broses o lunio’r Cynlluniau Strategol a’r broses o fonitro a goruchwylio eu gweithredu yn glir a thryloyw i rieni.

 

3.2       Cytunwn fod angen i atebolrwydd a thryloywder arwain yr holl broses – ar raddfa leol a chenedlaethol. Mae’r gofyniad ar awdurdodau lleol i gyhoeddi eu Cynlluniau Strategol er mwyn rhannu’n gyhoeddus ddata o safbwynt perfformiad yn ddatblygiad cadarnhaol, a hyderwn y bydd hyn yn fodd o ennyn hygrededd yn y gwaith o weithio tuag at gyflawni amcanion a thargedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

3.2       Profiad RhAG yw fod y cyswllt rhwng llywodraeth ganol a llywodraeth leol yn broblem barhaus. Mae’r pwerau gweithredu mewn sawl maes yn nwylo Awdurdodau Lleol yn hytrach na’r Llywodraeth ganol ar hyn o bryd.  Os bydd awdurdod lleol yn llusgo traed neu’n gwrthod dilyn canllawiau, mae angen eglurder ynglŷn â grym Llywodraeth y Cynulliad i ymyrryd. Dymuna RhAG felly weld Llywodraeth Cymru’n ymyrryd pan nad yw Awdurdod Lleol yn cyflawni’r gofynion yn ôl y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Galwn am lunio darpariaethau a fydd yn egluro’n ddiamwys y camau arfaethedig a gymer y Llywodraeth wrth ddelio gydag awdurdod lleol na fyddai’n cydymffurfio â gofynion y Bil.

           

 

Adran 4

87. Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg

 

4.1       Mae RhAG o’r farn fod mesur y galw’n gonglfaen bwysig sy’n anhepgor i’r gwaith o flaen-gynllunio llefydd cyfrwng Cymraeg. Rydym felly’n croesawu gweld fod adran 4 yn y Bil yn cyfeirio at y gwaith hynod bwysig hwn.

 

4.2       Mae nifer sylweddol o Awdurdodau Lleol heb agor ysgolion Cymraeg newydd ers bron i 40 mlynedd a hynny dan drefn flaenorol y Cynlluniau Addysg Gymraeg. Canlyniad hyn wrth gwrs yw fod plant yn cael eu colli o’r sector. Rhaid felly wrth system sy’n fesuradwy ac sy’n medru dal yr Awdurdodau Lleol yn atebol.

 

4.3       Mae tystiolaeth ddiamheuol fod llesteirio twf wedi digwydd ar raddfa helaeth mewn gwahanol rannau o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd  amharodrwydd Awdurdodau Lleol i fesur y galw ac ymateb yn briodol i’r galw hynny trwy gynyddu llefydd cyfrwng Cymraeg

 

4.4       Cytunwn felly bod anghysondeb ar hyn o bryd gyda rhai awdurdodau’n llusgo’u traed yn ddifrifol. Mae rhai heb fesur y galw ac eraill wedi mesur ond heb gymryd camau i ddiwallu’r angen a fesurwyd. Lle mae dyhead a galw o du rhieni yn gyrru’r twf mewn addysg Gymraeg, credwn y dylai Awdurdodau Lleol ymateb trwy ddiwallu’r galw hwnnw’n briodol. Pwyswn ar i Lywodraeth Cymru wneud hynny’n egwyddor graidd wrth weithredu’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

4.5       Gyda hynny mewn golwg nodwn fod geiriad Cymal 85 (1) yn nodi “Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, yn unol a rheoliadau, wneud asesiad o’r galw…..”. Mae hyn yn awgrymu fod elfen o ddewis wrth gyflawni’r weithred honno ac nad ydyw’n orfodol. Yn y siroedd hynny lle mae dewis clir rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg, cred RhAG y dylai fod hyn yn ofyniad statudol ac felly y dylid gwneud defnydd o “Rhaid” neu “Bydd” yma er mwyn gwneud hynny’n gwbl eglur. Nodwn y gwneir defnydd o ‘Rhaid’ trwy gydol Adran 4 ac eithrio Cymal 87.

 

4.6      Mae angen darparu dull cydnabyddedig yn genedlaethol o fesur y galw. Mae angen i’r dull a fabwysiedir gynnwys y canlynol:

 

(i)            rhoi gwybodaeth i rieni am natur addysg Gymraeg a’r deilliannau ieithyddol

(ii)          Holi’r cwestiynau canlynol ymhlith eraill

·         A yw’r rhieni am i’w plant fod yn ddwyieithog

·         A ydynt am i’w plant fynychu’r ysgol Gymraeg agosaf (ac enwi’r ysgol)

·         A fyddent am i’w plant fynychu ysgol Gymraeg pe bai un ar gael yn hwylus yn eu cymuned

 

4.7       O bryd i’w gilydd mae rhieni mewn ardal benodol, sydd heb ysgol Gymraeg, yn galw am ysgol.  Mae angen i awdurdodau lleol weithredu’n ddigon hyblyg i ymateb i geisiadau o’r fath.  Ar hyn o bryd mae Abertawe wedi bod yn ystyfnig iawn yn eu hymateb i rieni yng Ngogledd Gŵyr, sydd wedi casglu enwau 45 o blant 4-7 oed sydd am gael addysg Gymraeg.  Mae angen i’r Llywodraeth lunio canllawiau ymarferol a fydd yn sicrhau bod awdurdod lleol yn ymateb i alw o’r fath.

 

4.8       Mae’r gofynion ar yr AALL i ddangos effeithiolrwydd drwy leihau’r nifer o lefydd gwag mewn ysgolion yn cyfyngu ar eu gallu i ymateb i fesuron y galw. Mae RhAG yn ymwybodol fod galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn rhai ardaloedd ond nad yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon creu llefydd gwag yno ym mlynyddoedd uchaf ysgolion. Mae angen sicrhau cydlynu polisïau sydd ar hyn o bryd yn gweithio’n gwbl groes i’w gilydd.

 

4.9       Mae problemau enbyd hefyd yn codi mewn perthynas â chydweithrediad y Byrddau Iechyd Lleol gan fod cyflawni’r gwaith yn gwbl ddibynnol ar gael mynediad at ddata am y rhieni perthnasol. Oherwydd rheoliadau Diogelwch Data mae rhai Byrddau’n  amharod  rhyddhau’r data yma i gyrff allanol. Mae hyn yn llesteirio neu’n atal Awdurdodau Lleol rhag medru cyflawni’r gwaith, sydd wedyn a goblygiadau pellgyrhaeddol o ran eu gallu i flaengynllunio strategol effeithiol o ran datblygiad addysg Gymraeg.

Mae amharodrwydd y Byrddau Iechyd i gydweithio gyda’r A.LL yn tanseilio un o amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd. Rhaid sicrhau fod protocolau priodol wedi’u llunio fydd yn atal sefyllfaoedd cyffelyb rhag codi yn y dyfodol. Dylai’r Bil gynnwys wneud darpariaethau fyddai’n datrys hynny.

 

Adran 4

88 Rheoliadau a chanllawiau

 

5.1       Mae RhAG yn croesawu cynnwys rheoliadau a fyddai’n gwneud darpariaethau i ddau neu fwy o awdurdodau lleol lunio cydgynllun. Mae RhAG yn awyddus i weld mwy o gydweithio traws-sirol rhwng awdurdodau addysg lleol wrth iddynt gynnig darpariaeth addysg Gymraeg. 

 

5.2       Mae ffiniau sirol yn aml yn mynd yn groes i ffiniau cymunedau naturiol, ac mae angen creu prosesau sy’n caniatáu i ddisgyblion allu mynychu eu hysgol Gymraeg agosaf, os yw honno mewn sir gyfagos. Mae dalgylchoedd y mwyafrif helaeth o ysgolion Cymraeg yn llawer mwy na rhai cyfatebol yr ysgolion Saesneg, ac mae’r daith i’r ysgol Gymraeg felly yn hirach. Mae angen i ddalgylchoedd adlewyrchu cymunedau yn hytrach na ffiniau sirol.

 

5.3       Gydag addysg 16+ mae angen canllawiau clir sy’n sicrhau bod darpariaeth gyflawn Gymraeg ar gael wrth i ysgolion cyfun Cymraeg gydweithio yn eu siroedd eu hunain neu’n draws-sirol. 

 

5.4         Mae rhai Siroedd yn rhy fach i ddarparu addysg Gymraeg 3 – 18 yn

effeithiol, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, ac mae cydweithio rhyng-sirol yn hanfodol.

 

5.5       Fodd bynnag, nodwn fod rhaid i’r rheoliadau hyn weithredu yn erbyn cefnlen trefniadaeth newydd y consortia rhanbarthol. Nodwn nad oes unrhyw ffurfioldeb cyfreithiol yn perthyn i’r strwythurau newydd hyn, ac felly credwn fod angen i’r Bil wneud darpariaethau i sicrhau na fyddai hynny’n peri unrhyw lyffethair wrth i gonsortia neu nifer dethol o awdurdodau lleol o fewn y consortia hynny, lunio a gweithredu cyd-gynllun.

 

6.Sylwadau eraill

 

6.1       Yn ychwanegol mae RhAG yn dadlau fod angen gwneud darpariaethau o fewn y Bil a fyddai’n galluogi rhieni i wneud cais ar eu liwt eu hunain i’r llysoedd mewn achosion lle byddai methiant gan awdurdodau lleol i fesur y galw neu i weithredu ar ei sail.

 

            6.2      Mae RhAG yn edrych ymlaen at weld cysondeb o ran methodoleg a chanlyniadau ar draws siroedd Seisnigedig Cymru. Bydd yn dda gweld lefel uwch o gydweithredu rhwng siroedd, gan fod hyn wedi bod yn rhwystr i ddatblygiad addysg Gymraeg yn y gorffennol. Bydd yn dda cael systemau sy’n rhoi mynediad i nifer uwch o ddisgyblion i addysg Gymraeg, ac a fydd yn sicrhau gwella sgiliau yn y Gymraeg. Credwn yn gryf mai trwy sefydlu rhagor o ysgolion Cymraeg y mae codi safonau’r Gymraeg a chodi niferoedd disgyblion Cymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfleoedd i gydweithio â’r Llywodraeth ac awdurdodau addysg ledled Cymru i gyflawni hynny.